Pileri Celfwaith Porthmadog gan Howard Bowcott 2025
Chwaraeodd Porthmadog ran hollbwysig yn natblygiad y diwydiant llechi a'r diwylliant a ddeilliodd ohono, felly mae'n briodol iawn bod hyn yn cael ei ddathlu yn y pedwar piler o gelfwaith sydd wedi'u hysbrydoli gan dreftadaeth y dref. Gyda'i gilydd, mae'r pileri yn creu llwybr cerfluniau o amgylch y dref sy'n datgelu hanes pob lleoliad a manylion pob safle. Efallai mai'r lle gorau i gychwyn yw'r Harbwr, canolbwynt y gyfres.
- Piler yn yr Harbwr
- Piler yn y Parc
- Piler ger y brif orsaf a Byw'n Iach Glaslyn
- Piler yng Nghob Crwn ger Stryd yr Wyddfa
Piler yn yr Harbwr
Y dyddiau hyn mae'r harbwr yn lle i hamddena ac ymlacio, ond am bron i gan mlynedd, o'r 1820au hyd at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd harbwr Porthmadog yn ganolfan weithgarwch brysur a swnllyd i'r diwydiant llechi. Daeth sgrytian y wagenni rheilffordd â llechi toi yn syth i lawr o'r chwareli yn y bryniau i'r ceiau sy'n ymestyn ar hyd yr harbwr. Yma câi'r llechi eu pentyrru a'u stocio nes byddai’r llongau hwylio oedd yn eu cludo ar draws y byd yn gallu dod o hyd i ddigon o le i fynd i mewn i'r harbwr prysur a llwytho eu cargo gwerthfawr.
Roedd llawer o'r llongau hwylio hyn yn cael eu hadeiladu yn yr iardiau llongau lleol oedd yn manteisio ar ddyfroedd llanw yr harbwr. Roedd sŵn derw Cymreig yn cael ei lifio â llaw a'i dorri â bwyell a neddau yn llenwi'r awyr, ynghyd â sŵn morthwylion yn taro ar gynion dur wrth i weithwyr medrus siapio llongau a stwffio tar a rhaff i uniadau gwrth-ddŵr. Roedd y llongau hwylio bach ond cadarn hyn yn cario llechi ledled y byd ac yn dod â chyflenwadau yr oedd mawr eu hangen yn ôl i'r chwareli a'r trefi o amgylch Porthmadog. Roedden nhw'n siapiau mor brydferth hefyd: roedd eu llinellau gosgeiddig yn torri trwy donnau'r Iwerydd yn rhwydd, ond eto yn dal llechi yn ddiogel, wedi'u pacio'n dynn i'w planciau crwm. Rhodd i unrhyw gerflunydd!
Mae'r piler, rownd y gornel o'r Amgueddfa Forwrol, yn cyfeirio at y wagenni a'u llwythi o lechi toi, y twmpathau o lechi wedi'u pentyrru'n daclus ar y ceiau prysur, ac at adeiladu llongau hardd ym Mhorthmadog a'r cyffiniau. (Tybed a allwch chi ddod o hyd i'r llygoden ger wagenni llechi Rheilffordd Ffestiniog?) Mae enwau'r porthladdoedd yr ymwelai llongau Porthmadog â nhw ledled y byd wedi'u hengrafu yn y pentyrrau o lechi; mae llawer o'r offer a ddefnyddiwyd i adeiladu'r llongau wedi'u cerfio yn y cylchoedd llechi. Ewch i ymweld â'r Amgueddfa Forwrol a gweld a allwch chi adnabod yr offer y gwnes i eu hatgynhyrchu ar y celfwaith – maen nhw i gyd yno yn yr amgueddfa, sy'n adrodd yr hanes diddorol hwn yn fwy manwl. Ysgrifennodd y capten llong lleol, Henry Hughes, yn helaeth am yr hanes hwn yn ei lyfrau Immortal Sails a Through Mighty Seas.
Mae fy nhestun Saesneg wedi'i engrafu ar y celfwaith yn darllen:
Slates from the mountain skyline,
Delivered by the rattle of waggons on narrow steel rails,
Stacked tightly into curving ship timbers, shaped and built here,
Shipwright and slate packer in constant opposition.
Oak and tar sealing precious cargo through mighty seas.
Llinos Griffin ddarparodd y fersiwn Gymraeg:
Llechi o amlinelliad y mynyddoedd
Yn cyrraedd mewn wagenni’n sgerbydu mynd ar gledrau dur,
A’u llwytho’n dynn i ddistiau crymion y llong, a’u ffurfiwyd a’u hadeiladwyd yma,
Y seiri llongau a’r llwythwyr llechi mewn gwrthgyferbyniad cyson.
Derw a thar yn sodro llwyth gwerthfawr i’w lle
drwy’r moroedd mawr.
Piler yn y Parc
Cyn creu'r parc yn yr 1850au, defnyddiwyd yr ehangder hwn o dir gwastad fel llwybrau rhaffau. Yma gosodid ffibrau o jiwt a'u troelli gyda'i gilydd yn ddarnau hir o raff, gan bobl oedd yn cerdded i fyny ac i lawr llwybrau pren. Roedd yn rhaid i Borthmadog a'r chwareli llechi o'i chwmpas fod mor hunangynhaliol â phosib ac roedd angen miloedd o fetrau o raff ar y fflyd gynyddol o longau hwylio oedd yn ymweld â Phorthmadog.
Mae fy nhestun yn Saesneg ar ochr rhaff y celfwaith yn darllen:
Before the Parc, industry and activity in long rows,
Ropemakers weaving up and down narrow walkways,
Twisting fibres to connect Porthmadog with far destinations.
Llinos Griffin ddarparodd y fersiwn Gymraeg:
Cyn dyfodiad y Parc, roedd gweithfeydd yn rhesi hirion,
Gwneuthurwyr rhaffau’n gwehyddu ar hyd rhodfeydd cul cysgodol
Yn troelli edefynnau a gysylltai Porthmadog â phellafoedd byd.
Roedd ar y llongau angen llawer iawn o gynfas hefyd i gael ei bwytho yn hwyliau. Uwchben y ceiau ac mewn adeiladau fel y llofft hwylio hanesyddol rownd y gornel y tu ôl i Recordiau'r Cob, roedd cynfasau trwm yn cael eu pwytho â llaw i greu hwyliau llawn a gludai'r llongau i borthladdoedd pell o amgylch y byd - dim ond trwy ddal grym y gwynt.
Roedd y llongau wedi'u criwio gan dimau bach o longwyr lleol ac roedd yn rhaid iddynt allu llywio eu ffordd i'r holl borthladdoedd pell hyn. Sefydlwyd ysgol fordwyaeth ym Mhen Cei gerllaw, lle dysgai'r llongwyr fordwyo trwy ddefnyddio'r haul a'r sêr. Edrychwch yn ofalus rhwng y llechi sy'n ffurfio'r awyr uwchben delwedd yr hwyl ac efallai y byddwch chi'n gallu gweld lleoliad yr Aradr a Seren y Gogledd, wedi'u gosod mewn cerrig cwarts gwyn bychain yn yr haenau llechi.
Beyond the Parc, above busy quaysides,
Sail lofts and the study of navigation.
Heavy canvas pierced by thick thread,
Sun and stars stitched into filling sails,
Carrying slates all around the world.
Tu hwnt i’r Parc, ceir prysurdeb Pen Cei,
y llofftydd hwyliau a’r ysgol fordwyaeth.
Edau drwchus wedi’i hoelio i gynfas trwm,
Yr haul a sêr wedi’u pwytho i hwyliau hyderus
yn cludo llechi ledled y byd.
Piler ger y brif orsaf a Byw'n Iach Glaslyn
Roedd safle'r trydydd piler yn iard reilffordd brysur ar un adeg, yn llawn sŵn a gweithgarwch wrth i beiriannau stêm gludo nwyddau a theithwyr yn ôl a blaen. 'Doedd harbwr Porthmadog ddim yn ddigon mawr i ymdopi â'r holl longau oedd eu hangen i ddod â deunyddiau, tanwydd a bwyd i'r chwareli a'r boblogaeth leol oedd yn ehangu'n barhaus yng nghanol y 19eg ganrif. Roedden nhw'n ysu i Reilffordd Arfordir y Cambrian gael ei hadeiladu o Amwythig i Borthmadog er mwyn mynd ati o ddifri i ddatblygu'r diwydiant llechi. Yn 1867 cyrhaeddodd Rheilffordd y Cambrian i Borthmadog o'r diwedd a thu hwnt i hynny i Bwllheli.
Helpodd hyn dwf y diwydiant llechi a galluogodd i Borthmadog ffynnu: yn ogystal â dod â glo, pren, brics a bwyd i'r ardal, roedd posib allforio llechi, gwlân, defaid a chynnyrch ffres i farchnadoedd pell yn Lloegr. Wrth i'r awydd am wyliau glan môr dyfu'n gyflym trwy gydol oes Fictoria, daeth Rheilffordd y Cambrian hefyd â'r niferoedd sylweddol cyntaf o ymwelwyr i'r ardal.
Mae ochr yr orsaf i'r piler yn darlunio yr holl nwyddau a gâi eu cludo ar Reilffordd y Cambrian dros y blynyddoedd. Dilynwch y paneli o ddelweddau i lawr y golofn a byddwch yn gweld sut mae'r farchnad dwristiaeth yn y pen draw wedi mynd y tu hwnt i faint o nwyddau a gâi eu cario. Mae'r trynciau Fictoraidd trwm yn ildio i gesys mwy modern ac yn y pen draw mae'r nwyddau yn lleihau i ddim yn sgil twf trafnidiaeth ffyrdd a'r peiriant petrol. Mae'r pedair delwedd o locomotifau yn darlunio peiriannau nodweddiadol eu hoes, hyd at y trenau disel modern sy'n teithio ar y rheilffordd ar hyn o bryd.
Mae rheilffordd Arfordir y Cambrian yn cysylltu cymunedau â'i gilydd ac mae'n agwedd arwyddocaol ar fywyd cyfoes yn yr ardal. Mae hefyd yn rhan o dopograffeg yr ardal: mae nodweddion peirianneg sylweddol pontydd ac argloddiau o Aberystwyth i Bwllheli trwy Borthmadog bellach yn ffurfio rhan helaeth o arfordir y Cambrian.
Mae'r cysylltiad hwn rhwng cymunedau a'r modd y lluniwyd yr arfordir a rannwn yn dod yn fyw yn y siapiau cregyn sy'n diffinio'r arfordir ar ochr y map. Gwnaethpwyd y siapiau cregyn hyn gan blant Ysgol Eifion Wyn, yr ysgol gynradd gyfagos, gan ddefnyddio clai a gastiwyd mewn concrit gen i wedyn. Mae'r cregyn sy'n mynd allan i'r môr yn cyfeirio at greigresi megis Sarn Badrig.
Yn Saesneg mae fy nhestun yn darllen:
Polished steel rails
Arriving and departing
Bridging rivers and distances
Defining a coastline
Connecting communities
Llinos Griffin ddarparodd y fersiwn Gymraeg:
Cledrau dur gloyw
Y cyrraedd a’r ymadael
Yn pontio afonydd a phellteroedd
Yn diffinio arfordir
Yn cysylltu Cymunedau
Piler yng Nghob Crwn ger Stryd yr Wyddfa
Adeiladwyd Cob Crwn i gynnwys dyfroedd ymchwydd afon Glaslyn ar ôl i'r Cob gael ei adeiladu, gyda'r bwriad y byddai'n dod yn harbwr mewnol pe bai angen. Heddiw mae'n noddfa o brysurdeb Porthmadog ac yn hafan i natur ar gyrion y dref. Mae taith gerdded ar ei hyd yn datgelu bywyd gwyllt y gwlyptiroedd a golygfeydd o'r mynyddoedd.
Mae fy mhiler celfwaith yma yn dathlu'r agwedd dynerach hon ar fywyd a'r byd naturiol yn y lleoliad hwn. Cafodd y cregyn eu gwneud eto gan blant Ysgol Eifion Wyn. Mae'r delweddau o ôl llanw, llif afon ac aber yn cynnwys llawer o grancod sy'n cuddio yn y gwymon – tybed faint welwch chi?
Mae'r map ar y piler yn dangos yr ardal gyfan o Aberglaslyn i lawr i'r môr - y Traeth Mawr - fel yr oedd nes i William Maddocks adeiladu ei Arglawdd Mawr (a elwir y Cob) ar ddechrau'r 19eg ganrif. Ddwywaith y dydd byddai dyfroedd Bae Ceredigion yn llifo i mewn, gan newid y codiadau tir yn ynysoedd a chreigiau Tremadog yn glogwyni môr.
Roedd sawl man croesi ar fferi fechan ond roedd mynd ag anifeiliaid i'r farchnad a'r rhan fwyaf o deithiau ar droed yn golygu rhydio trwy ddyfroedd bas yr afon oedd yn filltir o led – edrychwch faint o brintiau anifeiliaid y gallwch ddod o hyd iddynt wedi'u hengrafu ar y panel tywodfaen. Wrth i bobl gerdded a mynd drwy’r dŵr roedd yn rhaid iddynt gadw golwg ar y llanw'n dod yn ôl i mewn – ‘doedd hi ddim yn hawdd croesi'r tywod ar lanw isel.
Cwblhau'r Cob yn 1811 a arweiniodd at greu Porthmadog a'i harbwr. Enillodd y Cob dir amaethyddol o'r môr ac arweiniodd y ffordd ar hyd y copa at ddatblygiad tref Porthmadog, tra creodd y dyfroedd a lifai allan trwy'r llifddorau ddyfnder o ddŵr a ddaeth yn harbwr Porthmadog. Cyn bo hir, daeth y dref a'r harbwr yn hanfodol i ddatblygiad y diwydiant llechi.
Twice a day
Shifting sands and salt splashed islands
Sea cliff heights above lapping waves
Before the great embankment
Ddwywaith y dydd ceir llanw a thrai
Y tywod a’r môr yn tasgu ar y creigiau
Ynysoedd yn esgyn o’r tonnau tyner
Cyn dyfodiad y morglawdd mawr
Howard Bowcott
Website: www.howardbowcott.co.uk
Cefnogir y Cynllun gan Gyngor Gwynedd o gyllid Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU