Map Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
Mae’r map yn amlygu y 6 lleoliad sydd yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd, yng Ngwynedd, sef;
- Dyffryn Ogwen
- Chwarel Dinorwig
- Dyffryn Nantlle
- Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor
- Ffestiniog a Phorthmadog
- Abergynolwyn a Thywyn
Gellir gweld delweddau ar y map sydd yn gysylltiedig a’r diwydiant, y tirwedd, a diwylliant a threftadaeth y bröydd chwarelyddol. Medrir defnyddio yr adnodd fel sail ysbrydoliaeth i annog dysgwyr i greu map creadigol eu hun, fel a welir yn yr esiamplau.

Esiampl

Map Mordeithiau
Map Mordeithiau, sy’n amlygu’r porthladdoedd oedd yn cael eu defnyddio wrth allforio llechi o borthladdoedd Gogledd Orllewin Cymru, yn ogystal a thermau cysylltiedig a’r llongau, a’r offer a ddefnyddiwyd i’w adeiladu.
Gellir defnyddio'r map fel adnodd addysg ar lawr y dosbarth, ar sgrin wen rhyngweithiol.
Cam wrth gam yn y dosbarth:
- Agor y cardiau sydd wedi eu grwpio i dri thema: Ymfudwyr, Llongddrylliadau, a Chludo nwyddau ar longau.
- Amlygu'r map 'Mordeithiau' ar sgrin y dosbarth.
- Dosbarthu'r cardiau.
- Gofyn i'r dysgwyr ymchwilio'r teithiau ar wefan 'Gwgl y Byd' neu fap cyffelyb.
- Dysgwyr yn amlygu 'r teithiau gyda ysgrifbin sgrin wen, rhannu a thrafod eu canfyddiadau.

Cardiau
Cliciwch ar y delweddau isod i lawrlwytho'r cardiau:


