Yma ceir adnoddau i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 2 – 7 i 11 oed, Cyfnod Allweddol 3 – 11 i 14 oed Medrir defnyddio'r adnoddau o dan ganopi thema eang sy’n gysylltiedig a Cymuned a Chynefin, Bro, Hanes Cymru.
Mae’r adnoddau yma yn benodol am Safle Treftadaeth y Byd, Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Ceir 6 cydran o fewn Safle Treftadaeth y Byd, oll a'u nodweddion unigryw eu hun o ran tirwedd a byd natur. Adroddir yr hanes gan greaduriaid sydd yn byw yn yr ardaloedd hynny, megis Guto Bwch Gafr a Menna Min Gafr; y geifr mynyddig Cymreig o ardal Ddyffryn Ogwen a Pheris, a Tegwen y Troellwr, yr aderyn prin hynod hwnnw; y Troellwr Mawr sy'n byw yn ardal Chwarel Brynreglwys yn Abergynolwyn.
- Guto Bwch Gafr; Beth ydy Llechen? Daeareg, crynodeb o wneuthuriad y graig, a sut cafodd ei greu.
- Tegwen y Troellwr Mawr; Yn ble mae yna lechen yng Nghymru? Daeareg; Esboniad o leoliadau’r graig, a’r rheswm bod yr ardaloedd chwarelyddol wedi datblygu.
- Beth yw Safle Treftadaeth y Byd?