Llysgenhadon Ifanc

Bydd cynllun Llysgenhadon Ifanc yn rhoi cyfle i bobol ifanc rhwng 13-16 oed i ddysgu mwy am eu hanes a threftadaeth, cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, gweithdai creadigol, cwrdd â phobol newydd, a datblygu sgiliau. Cynhelir yr holl weithgareddau o fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru unwaith y mis. Bydd cludiant wedi ei drefnu, a phob gweithgaredd yn rhad ac am ddim.

Mae’n gyfle da iawn i’r rheini sy’n meddwl am yrfa mewn sectorau megis yr amgylchedd, treftadaeth, twristiaeth, chwaraeon, hanes, hamdden. Mae’r cynllun yn darparu cyfleoedd i gael profiadau newydd, a gall gyfrannu i oriau gwirfoddoli neu gyfranogiad cymunedol ar gyrsiau megis Y Fagloriaeth Gymraeg.

Medrir amrywio maint y grwpiau yn ddibynnol ar y gweithgaredd, ond er mwyn cael dilyniant dylid anelu at ymrwymo i fynychu 6 sesiwn. Bydd tystysgrif Llysgennad Ifanc yn cael ei wobrwyo i rheini sydd yn mynychu.

I ganfod mwy gwyliwch y ffilm fer hon:

Mathau o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio: Chwaraeon dŵr; hwylio, caiacio, a chanŵio.Anturiaethau ar y tir; dringo, cyrsiau rhaffau uchel, saethyddiaeth, cerdded ceunentydd, beicio mynydd, cyfeiriannu, crefft y gwyllt, cerdded, mynydda. Gweithgareddau Creadigol; ffotograffiaeth, celf a chrefft, cyfansoddi caneuon, adrodd straeon, newyddiaduraeth, gwneud ffilmiau. Gweithgareddau hanes diwylliant a threftadaeth: archeoleg, archifau, ymchwilio a chofnodi.

Cofrestru

Dilynwch y ddolen isod i fynegi diddordeb a chofrestru:

https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/ailgyfeirio/llysgenhadon-ifanc

https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/ailgyfeirio/llysgenhadon-ifanc

Rhagor o wybodaeth

Os oes cwestiynau pellach cysylltwch â ffionmelerigwyn@gwynedd.llyw.cymru

Llwytho i lawr & argraffu

Ambassadors leaflet in Welsh
Cliiwch ar y llun i llwytho i lawr
*