Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn cael eu rheoli gan UNESCO. Mae gan UNESCO gyfrifoldeb i sicrhau fod Gwerth Rhyngwladol Eithriadol y safleoedd hynod yma yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae gofyn i safleoedd gael eu rheoli yn unol a gofynion ‘Confensiwn Ynghylch Gwarchodaeth Treftadaeth Naturiol a Diwylliannol y Byd (1972)’.
Ym Mhrydain, Llywodraeth y DU yw’r Aelod Wladwriaeth i UNESCO, mae’n gyfrifoldeb arnynt fel llofnodwr y Confensiwn uchod i gefnogi’r amcan yma. Yr Aelod Wladwriaeth sydd yn cyflwyno ceisiadau Safle Treftadaeth y Byd i UNESCO, a sydd a chyfrifoldeb yn y pen draw am eu rheolaeth.
Mae gan bob Safle Treftadaeth y Byd gorff atebol, sef Cyngor Gwynedd yn ein achos ni. Y corff atebol sydd yn ymateb i geisiadau am wybodaeth gan UNESCO trwy’r Aelod Wladwriaeth.
Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn cael ei rhedeg fel partneriaeth, mae saith partner strategol wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth ac yn eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth. Mae Bwrdd Partneriaeth STyB yn gyfrifol am redeg y safle ar lefel strategol. Mae’r tîm yng Nghyngor Gwynedd yn gyfrifol am redeg y safle o ddydd i ddydd ar lefel weithredol, gyda phartneriaid ar draws y dirwedd yn darparu rheolaeth a chefnogaeth yn benodol ar gyfer eu safleoedd.
Mae cynrychiolwyr cymunedol, busnes, trydydd sector ac sefydliadau yn eistedd ar yr is-grwpiau sydd o fewn y strwythur rheoli, ac yn bwydo gweithgareddau, pryderon neu syniadau i fyny i’r Bwrdd Partneriaeth trwy’r strwythur.
Gan ein bod yn Safle Treftadaeth y Byd sydd yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang, mae rhan helaeth o’r safle mewn eiddo preifat.
STRWYTHUR RHEOLI

CYSYLLTWCH Â NI
E-bost: llechi@gwynedd.llyw.cymru
Facebook: https://www.facebook.com/LlechiCymruWalesSlate/
Instagram: https://www.instagram.com/llechicymru/
Twitter: https://twitter.com/LlechiCymru
BWRDD PARTNERIAETH SAFLE TREFTADAETH Y BYD TIRWEDD LLECHI GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU
Bwrdd Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yw’r arweinydd strategol ar gyfer cyfres o weithgorau a’r Bartneriaeth yn ei chyfanrwydd; trwy’r rhain mae’n derbyn cyngor arbenigol gan arbenigwyr ymroddedig ym meysydd cadwraeth treftadaeth, treftadaeth y byd, adfywio economaidd a thwristiaeth ddiwylliannol.
Mae Bwrdd Partneriaeth yn cynnwys cynrychiolaeth o bob un o’r Partneriaid Strategol ac yn cael ei gadeirio gan Yr Arglwydd Dafydd Wigley, mae dau is-grŵp sydd a’r pwrpas i gynghori y Bwrdd Partneriaeth ar wahanol feysydd, Is Grŵp Cadwraeth a’r Is Grŵp Buddion. Mae dwy fforwm hefyd yn rhan o’r strwythur, sef y Fforwm Tirfeddianwyr a’r Fforwm Cymunedau. Bwriad y strwythur yw sicrhau llais cymunedau a thirfeddianwyr yn rheolaeth y Safle.
Aelodau’r Bwrdd Partneriaeth
- Yr Arglwydd Dafydd Wigley (Cadeirydd)
 - Cynghorydd Medwyn Hughes (Cyngor Gwynedd)
 - Sioned Williams (Cyngor Gwynedd)
 - Roland Evans (Cyngor Gwynedd)
 - Hannah Joyce (Cyngor Gwynedd)
 - Lucy Thomas (Cyngor Gwynedd)
 - Dan Amor (Cyngor Gwynedd)
 - Gwyneth Hughes (Cyngor Gwynedd – ysgrifenyddes)
 - Dr Dafydd Gwyn (Arbenigwr)
 - Jonathan Cawley (Parc Cenedlaethol Eryri)
 - Dr Kate Roberts (Cadeirydd Is Grwp Cadwraeth a Cadw)
 - Michael Bewick (Cadeirydd Is Grwp Buddion a J. W. Greaves)
 - Dr Sian Rees (ICOMOS-UK)
 - Gareth Jones (Cyngor Gwynedd)
 - Gwenan Hine (Prifysgol Bangor)
 - Ceri Williams (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
 - Dr Christopher Catling (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)
 - Phil Bushby (Amgueddfa Cymru)
 - Sarah Jones (Cyngor Gwynedd)
 - Nia Haf Lewis (Cyngor Gwynedd)
 - Jenny Emmet (Heneb)
 - Cynrychiolydd Cydran 1: Dafydd Roberts (Partneriaeth Ogwen)
 - Cynrychiolydd Cydran 2: Lowri Hedd Vaughan (GwyrddNI)
 - Cynrychiolydd Cydran 3: Angharad Tomos (Yr Orsaf)
 - Cynrychiolydd Cydran 4: Stephen Churchman (Garndolbenmaen)
 - Cynrychiolydd Cydran 5: Ceri Cunnington (Cwmni Bro Ffestiniog)
 - Cynrychiolydd Cydran 6: Elwyn Evans (Llanfihangel y Pennant)