FFYNIANT I’N DYFODOL O’N GORFFENNOL DIWYDIANNOL
BETH YW'R PROSIECT?
Mae Llewyrch o’r Llechi yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd ar ran ystod o bartneriaid, ac yn gynllun sydd wedi derbyn nawdd gan Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill. Mae cyfanswm y cynllun yn £32m gyda £18.8m yn dod o Lywodraeth y DU. Mae’r cynllun yn rhan o ymdrechion i ddefnyddio statws Treftadaeth y Byd fel cerbyd i ddenu buddsoddiad yn ein cymunedau llechi er mwyn eu gwneud yn lefydd gwell i fyw, gweithio ac ymweld a hwy.
Mae’r cynllun yn weithredol mewn tair ardal:
HWB DINORWIG
- Ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi ar safle’r Gilfach Ddu er mwyn creu gofod arddangos, addysg a phrif borth dehongli y Safle Treftadaeth y Byd, yn ogystal â gwaith cadwraeth i’r adeilad hanesyddol.
- Gwelliannau i Barc Padarn yn cynnwys uwchraddio a chreu llwybrau, ail bwrpasu adeiladau hanesyddol, gwella isadeiledd ymwelwyr a gwaith cadwraeth.

HWB OGWEN
- Buddsoddiad yn Neuadd Ogwen i uwchraddio’r system sain, goleuadau a ffabrig yr adeilad i wella cynnig y neuadd a’i gefnogi fel canolfan gelfyddydol o’r rad flaenaf.
- Ailddatblygu adeilad Yr Hen Bost ar y stryd fawr i greu unedau busnes, canolfan dreftadaeth bwrpasol ac adnodd cymunedol mewn cydweithrediad a Phartneriaeth Ogwen.
- Gwelliannau i lwybrau beicio a cherdded i gysylltu Bethesda a’r tirwedd llechi ehangach, yn cynnwys gwaith uwchraddio pontydd, llwybrau a dehongli ar rhannau o Lon Las Ogwen.

HWB FFESTINIOG
- Uwchraddio Aelwyd yr Urdd yn ganolfan cymunedol a ieuenctid.
- Ail bwrpasu dwy siop wag ar y stryd fawr yn unedau busnes, gofod preswyl a gofod creadigol i’r gymuned mewn partneriaeth a Cwmni Bro.
- Creu llwybr llesol beicio a cherdded i gysylltu Blaenau Ffestiniog a’r tirwedd llechi yn Chwarel Llechwedd.

CYNLLUNIAU CADWRAETH
Mae cynlluniau cadwraeth yn rhan o’r pecyn gwaith, yn cynnwys gwaith sylweddol i warchod strwythur Ysbyty Chwarel Penrhyn ym Methesda a gwaith cofnodi ym Melin Diffwys a Chwmorthin ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’r cynllun hefyd yn ariannu gwaith cychwynnol i ddiogelu Melin Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog.
GWELLIANNAU CANOL TREFI
Mae gwelliannau wedi eu cynllunio ar gyfer ein prif gymunedau llechi er mwyn ceisio uchafu ymwybyddiaeth o’r statws Safle Treftadaeth y Byd ymysg trigolion ac ymwelwyr.
- Uwchraddio meinciau, biniau a byrddau gwybodaeth;
- Cynllun arwyddion cyfeirio cerddwyr;
- Gosod ‘inserts’ llechi yn y troedffyrdd sydd yn cyfleu diwylliant lleol, e.e cynnwys barddoniaeth, tafodiaith neu ddywediadau lleol;
- Ail-wynebu troedffyrdd a ffyrdd o fewn y cymunedau;
- Cyd-greu darnau o waith celf cyhoeddus gyda cymunedau lleol er mwyn adrodd hanes eu treftadaeth llechi;
- Cynlluniau gwella adnoddau cymunedol

