Troseddau treftadaeth yw unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy'n niweidio asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau, henebion, parciau, gerddi a thirweddau. Gall hyn olygu dwyn, difrod troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all nid yn unig niweidio'r creiriau hanesyddol eu hunain ond hefyd a all amharu ar fwynhad a dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt.
Mae’r adnodd yma yn rhoi cyfle i’r disgyblion fynegi barn, trafod senarios, ac adnabod gwahanol fathau o drosedd o fewn y dirwedd llechi. Gall yr adnoddau a'r gweithgareddau fod yn sylfaen ar gyfer creu poster, neu ymgyrch diogelu a gwarchod Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
- Taflen 1: Adnabod trosedd Treftadaeth, canllaw gweithgaredd i athrawon.
- Taflen 2: Llun o olygfa ddychmygol o fewn y dirwedd llechi.
- Taflen 3: Cipluniau bychan o 11 golygfa o’r prif lun.
- Taflen 4: Gweithgaredd trafod, mynegi barn a chwestiwn ag ateb.
- Taflen 5: Cylch gwarchod a diogelu treftadaeth.
Taflen 1: Adnabod trosedd Treftadaeth, canllaw gweithgaredd i athrawon.
Taflen 2: Llun o olygfa ddychmygol o fewn y dirwedd llechi.
Taflen 3: Cipluniau bychan o 11 golygfa o’r prif lun.
Taflen 4: Gweithgaredd trafod, mynegi barn a chwestiwn ag ateb.
Taflen 5: Cylch gwarchod a diogelu treftadaeth.