PROSIECT LLEWYRCH O'R LLECHI

FFYNIANT I’N DYFODOL O’N GORFFENNOL DIWYDIANNOL

Logo Llywodraeth y DU
 

BETH YW'R PROSIECT?

Mae Llewyrch o’r Llechi yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd ar ran ystod o bartneriaid, ac yn gynllun sydd wedi derbyn nawdd gan Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill. Mae cyfanswm y cynllun yn £32m gyda £18.8m yn dod o Lywodraeth y DU. Mae’r cynllun yn rhan o ymdrechion i ddefnyddio statws Treftadaeth y Byd fel cerbyd i ddenu buddsoddiad yn ein cymunedau llechi er mwyn eu gwneud yn lefydd gwell i fyw, gweithio ac ymweld a hwy.

Mae’r cynllun yn weithredol mewn tair ardal:

HWB DINORWIG

  • Ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi ar safle’r Gilfach Ddu er mwyn creu gofod arddangos, addysg a phrif borth dehongli y Safle Treftadaeth y Byd, yn ogystal â gwaith cadwraeth i’r adeilad hanesyddol.
  • Gwelliannau i Barc Padarn yn cynnwys uwchraddio a chreu llwybrau, ail bwrpasu adeiladau hanesyddol, gwella isadeiledd ymwelwyr a gwaith cadwraeth.
Bloc Croeso Parc Padarn

 

HWB OGWEN

  • Buddsoddiad yn Neuadd Ogwen i uwchraddio’r system sain, goleuadau a ffabrig yr adeilad i wella cynnig y neuadd a’i gefnogi fel canolfan gelfyddydol o’r rad flaenaf.
  • Ailddatblygu adeilad Yr Hen Bost ar y stryd fawr i greu unedau busnes, canolfan dreftadaeth bwrpasol ac adnodd cymunedol mewn cydweithrediad a Phartneriaeth Ogwen.
  • Gwelliannau i lwybrau beicio a cherdded i gysylltu Bethesda a’r tirwedd llechi ehangach, yn cynnwys gwaith uwchraddio pontydd, llwybrau a dehongli ar rhannau o Lon Las Ogwen.Digwyddiad Neuadd Ogwen

 

HWB FFESTINIOG

  • Uwchraddio Aelwyd yr Urdd yn ganolfan cymunedol a ieuenctid.
  • Ail bwrpasu dwy siop wag ar y stryd fawr yn unedau busnes, gofod preswyl a gofod creadigol i’r gymuned mewn partneriaeth a Cwmni Bro.
  • Creu llwybr llesol beicio a cherdded i gysylltu Blaenau Ffestiniog a’r tirwedd llechi yn Chwarel Llechwedd.Digwyddiad Yr Aelwyd

 

CYNLLUNIAU CADWRAETH

Mae cynlluniau cadwraeth yn rhan o’r pecyn gwaith, yn cynnwys gwaith sylweddol i warchod strwythur Ysbyty Chwarel Penrhyn ym Methesda a gwaith cofnodi ym Melin Diffwys a Chwmorthin ym Mlaenau Ffestiniog.  Mae’r cynllun hefyd yn ariannu gwaith cychwynnol i ddiogelu Melin Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog.Ymweliad safle i Hen Ysbyty Chwarel y Penrhyn

 

GWELLIANNAU CANOL TREFI

Mae gwelliannau wedi eu cynllunio ar gyfer ein prif gymunedau llechi er mwyn ceisio uchafu ymwybyddiaeth o’r statws Safle Treftadaeth y Byd ymysg trigolion ac ymwelwyr.  

  • Uwchraddio meinciau, biniau a byrddau gwybodaeth;
  • Cynllun arwyddion cyfeirio cerddwyr;
  • Gosod ‘inserts’ llechi yn y troedffyrdd sydd yn cyfleu diwylliant lleol, e.e cynnwys barddoniaeth, tafodiaith neu ddywediadau lleol;
  • Ail-wynebu troedffyrdd a ffyrdd o fewn y cymunedau;
  • Cyd-greu darnau o waith celf cyhoeddus gyda cymunedau lleol er mwyn adrodd hanes eu treftadaeth llechi;
  • Cynlluniau gwella adnoddau cymunedolMurlun Llechi Blaenau Ffestiniog