Poems to inspire
The slate and quarrying landscape of Northwest Wales has been a source of inspiration for many bards over the years. These lesser known poems have been collected from archive newspapers, presented as short films and audio recordings, which can be shared in the classroom.
Collection
- Llechi'r Post, Post Office Slates
- Chwarelau Ffestiniog, Ffestiniog Quarries.
Post Office Slates, by J H THOMAS
Read by Alun Fon Williams.
Poem in Welsh about ‘The Slates by the Post Office’ in Waunfawr, written by JH THOMAS.
Mae anodd canu can
i’r testun, coeliwch fi,
Mae’r llechi gleision glan,
O’r golwg rhag y lli’;
Os bwriai gawod yn y nos
Fe safai’r dwr ar “Lechi’r Pos”.
Rhyw law fu yn eu rhoi,
Ynghol blynyddoedd maith,
Cael chwarae fel y gwynt
Ar hyd y llechi llaith,-
A chuddio weithiau gyda’r nos
O dan ffenestri yr hen Bos’.
Mi glywais ganu mawl,
Emynau dwyfol Duw,
A chennyn ni ‘rioed hawl,
Mewn oes oedd werth i fyw,
I gyrchu tua “Llechi’r Pos”
Yn dyrfa ddifyr gyda’r nos.
Bu yno lawer bardd,
Yn adrodd gwaith ei hun,
A llawer llencyn hardd,
Yn disgwyl am ei fun;
Ond erbyn heddiw nid oes un
Yn sefyll yno wrtho’i hun.
Er fod y cyfnod hwn,
Yn gwella’r ardal lan,
Mae llawer dan eu pwn,
Yn methu canu can;
A’r llechi gleision wedi mynd,
I ffwrdd i ganlyn llawer ffrynd.
Fe fagwyd llanciau llon
O gylch hen “Lechi’r Pos”,
Mae llawer dros y don,
Yn huno ger y ffos,-
Ac eraill yn y Waun o hyd,
Ym merw amgylchiadau’r byd.
Sawl llythyr ddaeth ar hyd Y llechi yn eu tro?
A sawl cyfrinach fud,
Anfonwyd i'r hen fro?
Ac ambell un yn llythyr llaith,
Am rywun wedi cefnu’r daith.
Mi welaf dyrfa lan,
Ar balmant yr hen Bos’.
Yn ddifyr gyda’u can,
I’n llonni gyda’r nos;
Mae’r plant sydd heddyw’n mynd i'r dre,
A’r gwynt yn chware yn eu lle.
J H THOMAS
Ffestiniog Quarries by ISALLT (Dr Robert Roberts 1839-1914)
Read by Arwel Gruffydd.
Poem in Welsh about ‘The Ffestiniog Quarries’, written by ISALLT.
Chwarelau Ffestiniog, glws haenau glas enwog,
At dywydd gwlyb tesog, dwf lechog do clos;
O fwrw diferyn, ni esgyn well plisgyn,
Wna’n gorn i dyddyn mwy diddos.
Gwell i chwi gael llechen i'w dodi’n glyd aden,
Mandesiog yw’r fricsen a’r deilsen yn do;
Ebrwyddod rhy’r priddyn a’r gawodau;ceir gwedyn
Pob defnyn glaw trwyddyn yn treiddio.
Y Parc enwir gynta, Mr Kellow a’i gweithia,
Ei rwbel adawa’n ei chylla, fodd chwith,
Ond yng nghroesa ei llechen, a’i beiriant di-angen
Ail mellten yn drylen y’i drilith.
Pant Mawr yw Mwlch Stwlan,Y Rhosydd, a’r Wrysgan,
Cwmorthin, Nyth y Gigfran, yn hepian mae hi,
Yr Oakeleys tri uchder, Top, Middle a Lower,
Tan ddaear y gweithier eu gwythi.
O’r Llechwedd y lluchir fyth gyfoeth a gefir,
Ei llechfaen ddarperir, ddadfrigir i'r fro;
Y Foty a Bowydd, lle caed y faen newydd,
Ro’dd gynnydd drwy’r gweithydd i'w gweithio.
Y Diffwys, Maenofferen, Graigddu, Bwlch y Slaten,
(Dwy weithia yng ngwythen ’r un deisen o dir)
Rhiwbach, a Rhiw Fachno, Cwt’bugail daw eto,
Pen Ffridd, oll yn gryno geir enwir.
Na’r Moelwyn aed heibio, ond enwi raid honno,
Na’r C’dwalad, fy meio a nwrdio wna e’;
Y Drum, Croesddwyafon, a Chwarel y Foelgron,
Sy heb weithio, ’n gobeithio gwell pethe.
Un atynt gawn eto - Y Gonglog yw honno,
Fel ’r oll fu’n anturio a llunio cael llog;
A’i cherrig i'w cario, a relwe i'w hwylio,
A’u llwytho a’u mudo i Borthmadog.
ISALLT